Saturday 5 September 2015

Gwybodaeth a Llyfrau


E-bost: llwydowen@yahoo.co.uk
Twitter: @Llwyd_Owen
Ganwyd Llwyd ym 1977 a magwyd ef yng Nghaerdydd. Mynychodd Ysgol y Wern ac Ysgol Glantaf cyn astudio ym Mhrifysgol Bangor a graddio ym 1998. Ers hynny mae wedi gweithio amryw o swyddi, gan gynnwys gyrrwr bws, gwerthwr drws-i-ddrws, cynorthwyydd warws, swyddog y wasg, cyflwynydd teledu ac mewn canolfan alwadau. Ynghyd ag ysgrifennu ffuglen, mae’n gweithio fel cyfieithydd. Mae’n byw yn ardal Rhiwbeina’r brifddinas gyda’i wraig a’i ddwy ferch.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, yn 2006, gyda Ffydd Gobaith Cariad yn dilyn yn hwryach yn ystod yr un flwyddyn. Ymddangosodd Yr Ergyd Olaf yn 2007, Mr Blaidd yn 2009 ac Un Ddinas Dau Fyd yn 2011, ill oll wedi’u cyhoeddi gan Y Lolfa. Enillodd Ffydd Gobaith Cariad Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007 ac ym mis Mai 2010 cyhoeddodd Alcemi addasiad yr awdur ei hun o’r nofel honno, sef Faith Hope & Love. Cyhoeddwyd Heulfan yn 2012, The Last Hit yn 2013 ac Y Ddyled yn 2014.

Bydd ei nofel newydd, Taffia, yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa ym mis Mawrth 2016, degawd i’r diwrnod ar ôl cyhoeddi ei gyfrol cyntaf.




Cyhoeddiadau:
Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau (Y Lolfa, 2006)
Ffydd Gobaith Cariad (Y Lolfa, 2006)
Yr Ergyd Olaf (Y Lolfa, 2007)
Mr Blaidd (Y Lolfa, 2009)
Faith Hope & Love (Alcemi 2010)
Un Ddinas, Dau Fyd (Y Lolfa, 2011)
Heulfan (Y Lolfa, 2012)
The Last Hit (Y Lolfa, 2013)
Y Ddyled (Y Lolfa, 2014)


Ffawd Cywilydd a Chelwyddau (http://bit.ly/1PAmfEE)   
“Fe ddylai’r nofel hon achosi daeargryn. Mae hi’n hollol wahanol i unrhyw beth rydym wedi ei ddarllen yn y Gymraeg o’r blaen. Yr hyn sy’n drawiadol am yr ysgrifennu yw’r egni aruthrol a berthyn iddo. Mae yna bendilio parhaus o’r doniol i’r dwys… ac yn raddol fe ddatgelir y tristwch sobreiddiol sy’n sail i’r stori.” Western Mail

“Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd yn plymio i fyd tywyll Luc – byd doniol, byd dychanol, byd dig, byd chwerw, byd unig a byd trist. Mwynheais Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn fawr. Mae hon yn nofel arloesol – o ran gwreiddioldeb ei stori ac o ran ei mynegiant unigryw. Dylid ei dderbyn a chroeso brwd.” Rhodri Ll Evans, BBC Cymru’r Byd

“Mae’r plot a’r cymeriadu’n gryf, ac mae naratif llif-yr-ymennydd yn dull perffaith I gyfleu anesmwythyd meddyliol y prif gymeriad.” Owain Rhys, Taliesin Haf 2006



Ffydd Gobaith Cariad (http://bit.ly/1NWpRAj
“Mae Llwyd Owen yn storïwr penigamp, sydd wedi llwyddo unwaith eto i ddod â bywyd Caerdydd yn weledol fyw ar y dudalen. Bydd y ffaith fod yma lai o elfennau ‘ych a fi’ yn siomi rhai, ac yn rhyddhad i eraill, ond mae Ffydd, Gobaith, Cariad yn aeddfetach na’i nofel gyntaf. Gallwn ond gobeithio bod y ffaith mai dyma’r ail nofel i Llwyd Owen ei rhyddhau o fewn llai na blwyddyn yn arwydd bod llawer mwy i ddod eto gan yr awdur talentog hwn.” Kate Crockett

“Mae stori Llwyd Owen yn plymio o ddosbarth canol-uwch i is-ddosbarth y brifddinas ac yn llithro o’r byd hwn i fyd arall rhwng yfory, ddoe a heddiw – ail yn unig i storïwr Y Mabinogi.”
Dafydd Elis-Thomas

“Dyma blot-feistr heb ei ail; negesydd o’r isfyd sydd a’i naratif yn ein tywys trwy’r niwl.”
Fflur Dafydd



Yr Ergyd Olaf (http://bit.ly/1NCrbLu
“Camp Llwyd Owen yw ein galluogi i gredu yn y cymeriadau hyn er gwaetha’u cefndir annhebygol ac, yn wir, mae rhywun yn rhyfeddu at ei allu i greu cymeriadau sy’n groes i’r disgwyl… Mae gwaith llenyddol yr awdur wedi’i groesawu yn gyflym iawn, a bydd Yr Ergyd Olaf yn sicr o blesio’r rheiny sydd wedi gwirioni ar ei ddawn fel storïwr.” Kate Crockett

“(Awdur sy’n) creu storïau a golygfeydd na welir mo’u tebyg mewn nofelau eraill yn y Gymraeg… (Nofel sy’n) dangos fod un o awduron disgleiriaf Cymru yn gweithio’n galed ar ei grefft, a’r darllenydd yn y pen draw sydd yn elwa o’r gwaith caled yma." Llion Iwan





Mr Blaidd (http://bit.ly/1LCU1v0)  
“Stori ddirdynnol am chwaergarwch a difrawder, caethiwed a breuddwydion maluriedig. Aiff Mr Blaidd a chi am dro i’r coed, a chwantau mwyaf anllad ochr dywyll y natur ddynol yn eich dilyn pob cam o’r ffordd.” Dewi Prysor

“Croniclo cymdeithas gyfoes ddinesig a wna Llwyd Owen yn null y nofelwyr mawr. Trwy ddarllen Mr Blaidd, dysgwn fwy am y Gymru gyfoes nag o unrhyw bapur newydd.” Llion Iwan

“Cyhyd â’ch bod chi’n barod am iaith a disgrifiadau cignoeth – mae gwledd o stori o’ch blaen.” Gwenllian Grigg

“Bydd yn apelio at unrhyw un sy’n mwynhau stori dda gyda lot o droeon annisgwyl… Mae yna adegau yn y nofel pan ydych chi’n meddwl da chi’n gwybod be sy’n mynd i ddigwydd wedyn mae o’n rhoi rhyw dro arall... a da chi’n cicio’ch hun am fod mor slô. Mae o’n wych iawn am eich syrpreisio chi.” Beca Brown (yn siarad ar Radio Cymru)




Un Ddinas Dau Fyd (http://bit.ly/1U86gUR
“Dyma awdur sy'n plymio i ddyfnderoedd tywyll bywyd yn eofn a digyfaddawd gan gilwenu arnom o'r cysgodion.” Fflur Dafydd

“Aiff Un Ddinas Dau Fyd â chi ar daith droellog trwy emosiynau, breuddwydion a chwantau mwyaf greddfol y ddynolryw - taith lle mae'r annisgwyl yn aros ar ddiwedd pob stryd, a phob cornel yn cynyddu'r cnoi yn y stumog wrth i chi synhwyro fod rhywbeth erchyll yn llechu rownd y tro.” Dewi Prysor





Faith Hope & Love (http://bit.ly/1NWq8TS
“Compelling and emotionally affecting, Owen’s stunning new novel is a stark picture of the humiliation, hurt and potential pitfalls faced by those one might describe as ‘society’s underdogs’.” Jack Clothier (www.gwales.com)

"Deftly plotted and pitch-perfect in its pacing... as with any good thriller or tragedy, we watch, mesmerised, as the circle closes... should bring [Owen] the wider readership and acclaim he deserves." Suzy Cellan Hughes, New Welsh Review

Well paced, tightly plotted ... holds a magnifying glass to the middle classes to highlight their dark underbelly ... an unconventional thriller that will linger long in the memory. 
Lloyd Jones

“An absorbing fable... enjoyable and pacey.. providing a thoughtful take on what it means to be alive and how suffering can control and overwhelm you.” Time Out London

“Shifting in time and cutting the social classes of Cardiff, Faith Hope and Love is a well-plotted, pacey, urban thriller evoking the city of Cardiff and exploring notions of memory and identity.” South Wales Argus

"Scalding... [this] savage indictment of Britain's welfare programs... packs real emotional punch. Owen unflinchingly reveals how easy it will be to 'rage, rage, against the dying of the light'." Publishers Weekly



Heulfan (http://bit.ly/1NCrkyE
“Mae hon yn nofel sy’n gafael o’r dechrau ac yn parhau i gydio hyd y diwedd. Ac un o’i ddoniau digamsyniol yw ei allu i wthio’r stori yn ei blaen. Mae honno’n ddawn brin iawn. O’r dechrau i’r diwedd does dim llaesu na llacio. Mae rhywun yn ysu i droi i’r dudalen nesaf ond hefyd am arafu’r darllen wrth fynd ymlaen er mwyn ceisio gohirio’r diwedd.” Lyn Ebenezer

“Ymysg y cyfeiriadau cysurus a chyfarwydd hyn y mae yma lenor sy’n llwyddo bob tro i oresgyn disgwyliadau’r darllenydd. I rai, pulp fiction dienaid yw hanfod ei waith, ond ynHeulfan cawn goblyn o gyfrol dda, a honno’n un llawn cariad.” Lowri Cooke





The Last Hit (http://bit.ly/1MWYl8L
“Moves along at a rollicking pace... memorable set-pieces... enigmatic... atmospheric... great touches of humour. It won’t win the Booker but strap yourself in, it’s quite a ride.” Rhodri Jones (The Lone Reader)

“Amidst all this glorious gore, a carefully crafted plotline appears – succulent storylines wending their way inextricably together, asking a lot of difficult and searching questions of the reader. Deliciously close to a modern classic.” Jack Clothier (www.gwales.com)






Y Ddyled (http://bit.ly/ZniqhG
“Sgwennu gwych - beiddgar, brwnt, bachog a meistrolgar. Aruthrol o dda, mewn unrhyw iaith!” Alun Cob

"Dyma nofel ddychmygus, egnïol, deifiol a da." Jon Gower

“Cyfuniad o fechgyn yn eu harddegau yn dod i oed a dychan yn gwawdio’r byd llenyddol cyfoes. Cryfder Llwyd Owen yw ei arddull. Mae’n ysgrifennu’n rhwydd ac yn amrwd iawn ar adegau, ond mae hynny’n gweddu i’r cymeriadau a’r math o stori yw hi.” Catrin Beard

“Campwaith. Clasur sy ymysg y nofela gora imi rioed ddarllan. Wedi mwynhau pob gair a munud wrth ddarllan.” Dewi Prysor

“Clyfar a gwych.” Manon Steffan Ros

No comments:

Post a Comment